SL(6)674 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2025

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth bwyd a gaiff ei fewnforio a gadwyd yn ôl gan y DU ar ôl ymadael â'r UE.

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol i’r Undeb (EUR 2019/1793) yn gwneud darpariaeth i ddiweddaru’r rhestrau o fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid ar eu mynediad i Brydain Fawr.

Mae’r Atodiadau i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793 yn cynnwys rhestrau o nwyddau bwyd a bwyd anifeiliaid sydd naill ai’n destun cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol, yn destun mesurau brys neu’n destun ataliad mynediad i Brydain Fawr.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i'r Atodiadau i ddarparu ar gyfer y canlynol:

·         nwyddau sydd wedi’u tynnu o’r rheolaethau;

·         nwyddau sy’n destun llai o reolaethau;

·         nwyddau sy’n destun rhagor o reolaethau; a

·         nwyddau i fod angen rheolaethau newydd.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru cyflwyniad y codau a ddefnyddir i nodi’r bwyd a’r bwyd anifeiliaid sy’n ddarostyngedig i reolaethau, er mwyn cyd-fynd â system Tariff Integredig y DU a diwygio troednodiadau.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

 

 

Materion technegol: craffu

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.

Yn Atodlen 1, yn yr Atodiad 1 newydd, yn Nhabl 1, mae gwahaniaeth rhwng y fersiwn Saesneg a’r fersiwn Gymraeg. Yn y fersiwn Saesneg, yn y cofnod ar gyfer “Uzbekistan”, yn yr ail golofn, ar ôl “Dried apricots” mae'n nodi “(Food and feed)”. Yn y fersiwn Gymraeg yn y man cyfatebol, fodd bynnag, ar ôl “Dried apricots” maen’n nodi “(”(Bwyd)” sydd hefyd wedi'i fformadu yn wahanol mewn testun trwm. Hefyd, yn y fersiwn Gymraeg o'r cofnod hwnnw ar gyfer “Uzbekistan”, yn yr ail golofn, mae hefyd yn nodi “(Bwyd)” mewn print trwm yn syth ar ôl “Apricots, otherwise prepared or preserved” er nad oes unrhyw eiriau yn ymddangos yn y fersiwn Saesneg.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.

Yn Atodlen 1, yn yr Atodiad 1 newydd, yn Nhabl 1, mae gwahaniaeth rhwng y fersiwn Saesneg a’r fersiwn Gymraeg. Yn y fersiwn Saesneg, yn y cofnod ar gyfer “Uzbekistan”, mae’r talfyriad “(UZ)” ar goll yn y golofn gyntaf ar ôl enw’r wlad honno er ei fod i’w gael yn y lle cyfatebol yn y fersiwn Gymraeg. Yn hyn o beth, mae'r holl gofnodion eraill yn y Tabl hwnnw'n cynnwys y talfyriad perthnasol ar ôl enwau'r gwledydd yn y fersiwn Saesneg a’r fersiwn Gymraeg.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.

Yn Atodlen 2, yn yr Atodiad 2 newydd, yn Nhabl 1, mae gwahaniaeth rhwng y fersiwn Saesneg a’r fersiwn Gymraeg. Yn y fersiwn Saesneg, yn y cofnod ar gyfer “India”, yn y rhes ar gyfer “Groundnuts (peanuts), otherwise prepared or preserved”, yn yr ail golofn, mae'n nodi “(Food and feed)”. Ond yn y fersiwn Gymraeg, yn y cofnod cyfatebol, mae'r geiriau hynny'n ymddangos yn y Gymraeg fel “(Bwyd a bwyd anifeiliaid)” yn hytrach nag yn Saesneg. Mae'r Tabl 1 newydd yn cael ei fewnosod i ddeddfwriaeth nad oedd wedi'i gwneud yn ddwyieithog yn Saesneg ac yn Gymraeg, felly dylid nodi'r geiriau hynny yn Saesneg yn y fersiwn Saesneg a’r fersiwn Gymraeg o’r Rheoliadau hyn.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

19 Tachwedd 2025